Ddylai’r un Golygydd efo owns o hunan-barch gychwyn colofn yn trafod y tywydd… ond mae hi wedi oeri yn arw yntydi?

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae straeon yn ymddangos am y cyflwr Seasonal Affective Disorder (SAD), gyda’r felan yn gafael wrth i’r gaeaf gychwyn.

Mae’r dioddefwyr yn teimlo yn isel ac yn colli’r awydd i godi o’u gwlâu.

A hyd’n’oed i’r rhai sydd heb SAD, mae’r newyddion ar y funud yn drybeilig o ddigalon.

Ond hidiwch befo, mae gennym ni ambell stori i gynhesu’r cocls yn y cylchgrawn yr wythnos hon.

Yn y Babell Roc mae yna foi difyr o’r enw James Minas, cerddor sy’n hanu o dramor ac wedi tyfu fyny mewn syrcas.

Fe gafodd James ei addysg yn Gymraeg am blwc, ond doedd ganddo fawr i’w ddweud wrth yr iaith.

Fel llawer gormod o Gymry ifanc, fe adawodd yr ysgol a siarad yr un gair o Gymraeg am flynyddoedd.

Ond wrth ddynesu at ddiwedd ei ugeiniau, dyma James yn ailddarganfod yr iaith wedi iddo gychwyn canlyn gyda’r gantores Mali Hâf.

A chydag anogaeth Ynyr Ifan o’r band Rogue Jones, mae James newydd ryddhau ei gân gyntaf yn Gymraeg – ‘Ddoe’.

“Mae’n dda cyrraedd pwynt ble dw i ddim yn teimlo’n negyddol am yr iaith,” meddai James yn y Babell Roc ar dudalen 28.

Dyma gyfweliad hyfryd gan gerddor angerddol sy’n brawf bod modd dod nôl i gorlan y Gymraeg.

Ac fel y gwelwch chi ar y clawr, mae gennym ni gyfweliad amserol ac haeddiannol iawn gyda’r hybarch Max Boyce ar dudalen 14.

Mae’r diddanwr yn hel atgofion am ei fagwraeth ac yn datgelu bod ei fam wedi wynebu beirniadaeth gan ei chymdogion, a hynny am iddi ei anfon i gael addysg mewn ysgol Gymraeg.

Hefyd mae Max yn sôn am ei droeon trwstan yn ceisio cofio cerdd ar lwyfan steddfod, a geiriau caredig y beirniad adrodd wnaeth ei gysuro ar y pryd.

Ac o un o’n sêr mwyaf sefydlog i seren lachar newydd sydd wedi ennill gwobr am actio.

Ar dudalen wyth fe gewch gyfweliad gydag Elan Davies, actores sydd wedi ei magu yn Llundain ac sy’n medru siarad Cymraeg glân gloyw. Hyfryd!

 

Minas yn mwynhau creu yn Gymraeg

Elin Wyn Owen

“Holl bwynt Minas yw bod yn authentic a bod yn agored a pheidio cuddio unrhyw beth”

Max Boyce yn dathlu dwy garreg filltir

Alun Gibbard

“Nid ‘Hymns and Arias’ yw fy nghân ore o bell ffordd…”

Elan Davies

Elin Wyn Owen

“Mae’n rili chwyslyd ac anodd ac mae’n dy wthio, ond dw i’n teimlo gymaint o foddhad pan dw i wedi gorffen gwers”