Yr actores o Lundain enillodd y wobr am y Perfformiwr Gorau yn y Stage Debut Awards fis yma am ei rhan yn y sioe Imrie.
Dyna oedd y tro cyntaf i berfformiad Cymraeg ennill y wobr ac mae hi’n gobeithio parhau i gael gweithio yn yn yr iaith…
Sut deimlad oedd ennill y wobr?
Roedd o’n sioc enfawr i fod yn onest. Roedd o’n meddwl lot i fi i gael fy enwebu i ddechrau, yn enwedig am wobr am gynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg. Ond roedd ennill yn brofiad mor swreal.
Roedd o mor cŵl fy mod i’r enillydd iaith Gymraeg cyntaf hefyd ac roedd o hyd yn oed yn fwy sbesial fod Callum Scott Howells wedi cyhoeddi [fy mod I wedi ennill] achos wnaeth o gyhoeddi o’n Gymraeg.
Pa mor bwysig ydi bod theatr iaith Gymraeg yn cael ei chydnabod mewn gwobrau o’r fath?
Mor bwysig! Dw i’n meddwl bod theatr Cymraeg weithiau’n cael ei dorri i ffwrdd o’r cyfryngau mainstream ym Mhrydain felly dw i’n meddwl bod o’n bwysig iawn bod y theatr Cymraeg yn cael platfform. Mae yna gymaint o dalent a chymaint o amrywiaeth o dalent yng Nghymru sy’n haeddu cael ei ddathlu cymaint â thalent yn unrhyw wlad arall.
Sut ddrama oedd Imrie?
Roedd hi’n sioe dwy ddynes a oedd yn stori coming of age rhwng dwy hanner chwaer, Rebecca Wilson a finnau. Yng nghalon y sioe roedd stori lyfli am ddwy chwaer yn tyfu i fyny o fod yn eu harddegau ac yn cael eu taflu i mewn i fod yn oedolion a cheisio taclo’r materion a phroblemau ti’n cael efo dy chwaer yn ystod y cyfnod yna.
Ond llaw yn llaw gyda hynny, roedd yna drosiad ffantastig am otherness a queerness a oedd yn cael ei arddangos trwy fod yn siren. Felly roedd fy hanner chwaer yn y sioe, Rebecca, yn darganfod ei bod hi’n siren hanner ffordd trwy’r sioe, a oedd yn meddwl ei bod hi’n perthyn i fyd newydd a mwy doedd hi erioed wedi gwybod am dan y môr. Roedd hyn yn amlygu’r ffaith fod yna gymunedau mae pawb yn darganfod yn eu bywydau.
Aeth fy nghymeriad i drwy frwydrau yn yr un ffordd gan ei bod hi’n cael trafferth ffeindio ei chymuned hi ac i ffeindio cysur yn ei hun.
Wnaethoch chi fwynhau perfformio’r ddrama?
Roedd o’n brofiad mor lyfli. Roeddwn i wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr, Gethin Evans o’r blaen, ond dyma oedd fy nhro gyntaf yn gweithio gyda Rebecca. Roedd o’n brofiad mor unigryw i gael gwneud sioe oedd mor fach ac agos-atoch, ond eto oedd yn gofyn gymaint gennym.
Roedd y sioe hefyd yn fy ail iaith, felly roedd hynny ychydig yn frawychus. Ond roedd o’n brofiad gwobrwyol iawn.
Ges i weld lot o lefydd newydd yng Nghymru ar daith gyda’r sioe hefyd. Dim ond de orllewin Cymru o’n i wedi gweld cyn y sioe, ond ges i weld llwyth o’r gogledd do’n i erioed wedi gweld o’r blaen. A gan fod Rebecca o’r gogledd roedd hi’n gwybod am y llefydd gorau i fynd ar ein diwrnodau i ffwrdd. Roedd o’n anhygoel.
Sut wnaethoch chi ddysgu Cymraeg?
Mae fy nhad o Gaerdydd – born and bred – ac wedyn mae fy mam o Zambia ond symudodd hi i sir Fynwy pan oedd hi’n blentyn. Mae fy nhad a’i holl ochr o o’r teulu yn siarad Cymraeg, felly es i i Ygsol Gymraeg Llundain ac yn y fan yno wnes i ddysgu’r Gymraeg.
Mae’n brofiad rhyfedd trio pontio’r bwlch rhwng cael dy ddysgu yn y Gymraeg yn yr ysgol gynradd i gael dy ddysgu trwy’r Saesneg yn yr ysgol uwchradd. Roedd o fel mynd o ysgol gynradd mewn pentref bach yng Nghymru, gan mai dim ond tua 45 ohonom oedd yn yr ysgol, i ysgol uwchradd efo 800 o blant -roedd o’n rhyfedd.
Oes yna fwy o waith actio yn Gymraeg ar y gweill?
Gobeithio! Dw i’n gobeithio cael gweithio mwy yn y Gymraeg yn gyffredinol achos dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn ac yn gyfle i geisio hyrwyddo’r ffaith fod Cymru eisiau cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Dw i’n meddwl mai’r unig ffordd mae hynny am ddigwydd ydy os ydyn ni’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Felly byswn i’n caru parhau i weithio yn y Gymraeg.
Beth yw eich atgof cynta’?
Fy atgof cyntaf yw pan o’n i’n tua phedair neu bump oed, wedi gwisgo fyny’n un o ffrogiau fy mam ac yn perfformio mewn cyngherddau yn yr ystafell fyw. Roedd gen i degan piano bach pinc a ro’n i’n gorfodi fy nheulu cyfan i eistedd i fy ngwylio!
Beth yw eich ofn mwya’?
Mae gen i ofn anferth o’r môr. Mae’r ffaith ein bod ni ond wedi darganfod rhan ohono yn gwneud i chi feddwl: ‘Be arall sydd lawr yna?’
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dydw i ddim yn berson actif iawn yn gyffredinol ond dw i wedi sylweddoli fod ymarfer corff yn angenrheidiol, yn enwedig pan mae yna gyfnodau lle does gen i ddim gwaith cyson. Mae’n neis cael ymarfer corff yn lle hynny achos mae’n rili lleddfol ac ymlaciol. Felly ar y funud, dw i’n rili mwynhau hot yoga. Mae’n rili chwyslyd ac anodd ac mae’n dy wthio, ond dw i’n teimlo gymaint o foddhad pan dw i wedi gorffen gwers. Mae yna rywbeth rili neis am bron â chwysu cynnwys dy holl gorff allan mewn pose weird lle mae dy gyhyrau i gyd yn ymestyn mewn ffordd dydyn nhw heb arfer gwneud.
Beth sy’n eich gwylltio?
Anwybodaeth ac anallu i addasu eich hunain a derbyn bod y byd o’n cwmpas yn newid. Dylai ein bod ni i gyd yn newid gydag o.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Byswn i wrth fy modd yn cael bwyd gyda Viola Davis. Hi ydy fy ysbrydoliaeth mwyaf o’r byd actio a byddai o mor cŵl i eistedd lawr a rhannu mac ‘n’ cheese efo hi!
Pa air ydych chi’n gorddefnyddio?
Dw i’n dweud ‘like’ lot… fel looot!
Typical Welshie!
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwyaf o embaras i chi?
Pob tro dw i’n cael tecawe ac mae’r gyrrwr [sy’n danfon y bwyd] yn dweud: ‘Mwynhewch eich pryd’, a dw i’n ateb: ‘Ti hefyd’.
Gwyliau gorau i chi fwynhau?
Aethon ni i Jamaica fel teulu yn 2019 a hwnnw yn bendant ydy fy hoff wyliau. Wnaethon ni aros yn Negril a’r traethau yn Jamaica ydy’r gorau dw i erioed wedi eu gweld. Mae’r tywod mor lân a phur. Mae’r diwylliant yno hefyd mor groesawgar. Mae’r bobol yr ydych chi’n aros efo ac yn cyfarfod mor groesawgar a chyfeillgar! Mae yna egni anhygoel, cerddoriaeth anhygoel, bwyd anhygoel. Roedd popeth am y gwyliau’n berffaith.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Dw i’n defnyddio’r amser cyn mynd i’r gwely fel amser i adlewyrchu ar y diwrnod dw i wedi’i gael, ac weithiau os ydw i wedi cael diwrnod hir, mae’r recap yn cymryd ychydig yn hirach.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Roedd Normal People gan Sally Rooney yn grêt, ond fy hoff lyfr ydy Ballad of Songbirds and Snakes gan Suzanne Collins.
Hoff air?
Lush.
Hoff albwm?
Renaissance gan Beyoncé. Hanner fford trwy Imrie, roedd gennym ni wythnos i ffwrdd felly wnes i a Rebecca deithio i Lundain i wylio Beyoncé ac mae o wir yn un o ddyddiau gorau fy mywyd. Roedd o mor, mor dda.
Hoff film?
Waves.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Ro’n i’n cerdded allan o Sainsbury’s a wnes i ddim sylweddoli fy mod i wedi mynd â banana efo fi. Es i yn ôl mewn i dalu!