Anodd ydi dweud unrhyw beth nas dywedwyd eisoes am y gwrthdaro cyson rhwng Israel a Phalesteina, ac eto ymddengys bod y rhan honno o’r byd yn wenfflam eto, gyda’r sefyllfa’n gwaethygu fesul awr. Dydyn ni methu dychmygu byw mewn cyflwr cyson o ofn ac amheuaeth y mae’r ddwy bobl yn ei deimlo, ac mae’n anodd cynnig sylwebaeth wreiddiol.