Mae cyfreithwraig fu’n chwarae rygbi dros Gymru bellach yn brysur yn hyfforddi chwaraewyr ieuenctid Caernarfon, ac yn ymlacio yn nhonnau’r môr wrth i’r haul wawrio.

Does dim dadlau gyda disgrifiad Teleri Wyn Davies, sy’n wreiddiol o’r Bala, o’i thaith ym myd rygbi fel “rollercoaster”.

Bellach wedi ymddeol o chwarae’r gêm, mae Teleri, sy’n 26 oed, yn arbenigo mewn cyfraith droseddol ar y funud.