A hithau yn hanner tymor yr wythnos nesaf, mae ymdrech arbennig ar droed i ddenu pobol at amgueddfeydd y wlad… 

Dros wyliau hanner tymor ar derfyn yr Hydref, pan fydd rhieni Cymru yn chwilota am bethau i ddiddanu’r plantos, bydd gŵyl arbennig yn annog pobol i ymweld â thua hanner cant o amgueddfeydd ledled y wlad.