Yn eicon Cymreig sy’n enwog am gyfuno cerddoriaeth a chomedi, fis yma mae Max Boyce wedi bod yn dathlu hanner canrif ers recordio ‘Live at Treorchy Rugby Club’ gyda chyngherddau llawn dop yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Dyma’r albwm sy’n cynnwys y clasuron ‘Hymns and Arias’ a ‘Duw It’s Hard’, ac mi werthwyd hanner miliwn o gopïau ohoni.