Fe fyddwch yn gyfarwydd â hanes yr Iddewon.

Canrifoedd o’u herlid a gwahaniaethu yn eu herbyn. Twf Natsïaid yn yr Almaen yn ystod 30au’r ganrif ddiwethaf. Ethol Adolf Hitler yn Ganghellor – ac yntau, ynghyd ag Eichmann, yn datblygu’r Ateb Terfynol. Creu peirianwaith o drenau, gwersylloedd crynhoi a siambrau nwy, er mwyn lladd chwe miliwn o blant ac oedolion. Llosgi’r cyrff a chadw’r aur.