Dychmygwch mai chi yw Danny Ward. Nid ydych wedi chwarae i’ch clwb ers naw mis. Maen nhw wedi arwyddo rhywun i gymryd eich lle a dydych chi ddim hyd yn oed yn haeddu eistedd ar y fainc yn eu barn nhw. Ond wedyn rydych chi’n troi fyny i chwarae dros Gymru yng Nghaerdydd ac mae’r dorf nid yn unig yn eich croesawu chi ond maen nhw’n canu eich enw o’r munud gyntaf tan y munud olaf yn ystod y gêm.