Dollar Lizard Money Zombie yw trydydd albwm HMS Morris, y band ‘art-roc’ seiceledig sy’n plethu tiwns bachog gyda phop arbrofol a dramatig.

Fe’i cyfansoddwyd o safbwynt criw o ffrindiau sy’n darganfod eu hunain mewn byd o fwystfilod cyfalafol ffiaidd. Ond y cwestiwn ydy, a fyddan nhw’n goroesi’n ddigon hir i adrodd yr hanes?

Dau fath o bobol sydd yn nheitl yr albwm, sef y Dollar Lizard a’r Money Zombie, ac mae’r caneuon yn tynnu ar bersbectif y ddau grŵp yma wrth drafod materion fel tai haf neu’r cam i fynd yn hunangyflogedig.

“Wnaethon ni drio teitlau eraill ond doedd dim byd yn eistedd mor dda â honna,” eglura Heledd, prif leisydd HMS Morris.

“Pan o’n i’n edrych yn ôl, roedd y teitl yn dechrau creu ystyr ei hunan – bod y Dollar Lizards yn cynrychioli penaethiaid cwmnïau mawr sydd â llwyth o arian, a’r Money Zombies ydy’r bobol hyn sydd yn ymlid yr arian er mwyn byw.

“Mae lot o’r thema yma’n rhedeg trwy ganeuon yr albwm.

“Ambell waith o bersbectif eisiau bod yn Dollar Lizard ac ambell waith o bersbectif un sydd eisiau bod yn Money Zombie.”

Balls to the wall…’

Cyn rhyddhau’r albwm fe rannodd y band flas o’r arlwy gyda’r sengl ‘Balls’. Neges y gân yw bod bywyd hunangyflogedig ar adegau yn teimlo’n frawychus o ansefydlog, ond bod rhaid cofio bod cefnogaeth o dy gwmpas. Ond mae’r gân yn gweithio fel hwb fach i unrhyw un sydd ei angen, meddai Heledd, boed hynny cyn cyfweliad am swydd neu cyn cymryd y cam i fynd yn hunangyflogedig.

“Mae wastad un gân gennym ni sy’n bach o gân comedi a honna oedd hi ar yr albwm yma,” meddai.

“Mae e i fod jest yn pep talk i bobol, i roi hyder i bobol, a rhywbeth gallen nhw falle ganu cyn mynd i mewn i gyfweliad swydd neu sefyllfa rili anghyfforddus.

“Mae e i gyd am wneud beth chi eisiau gwneud heb edrych yn ôl.

“Mae’n un o’r rhai symlaf a mwyaf straight forward o ran y geiriau ar yr albwm.”

Fel un a wnaeth orfod symud i weithio’n llawrydd yn ystod y pandemig, mae’n neges y mae Heledd ei hun yn gallu uniaethu gydag e’.

“Cafodd tipyn o’r albwm ei sgrifennu tuag at ddiwedd y cyfnod clo, fel lot o albymau sy’n dod allan nawr,” meddai.

“Yn enwedig i bobol lawrydd, roedd hi’n hustle time ble roedd rhaid ffeindio llefydd gwahanol i greu dy arian a chynnal dy hun, heb allu bod allan yn y byd.

“Bues i’n lwcus gyda swyddi bach yn ystod Covid i gadw fy hunan i fynd.

“Cyn hynny, ro’n i’n gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm ond wnaethon nhw golli llwyth o staff yn ystod y pandemig a ro’n i’n rhan o hynna.

“Felly ges i fy nhwlu i mewn i’r byd llawrydd – ond fi byth wedi gadael ers hynny a fi’n rili mwynhau e nawr.

“Mae yna gymuned neis ohonom ni hefyd, yn enwedig yng Nghaerdydd, a ni gyd yn gallu edrych ar ôl ein gilydd.”

O eiriau “straightforward” y gytgan daw’r teitl sydd wedi achosi ambell gigl ar y radio, yn ôl Heledd. Fe glywch chi hi’n canu “balls to the wall” tro ar ôl tro yn y gân, ac mae Heledd yn falch bod y teitl yn gallu rhoi ychydig o hwyl ddiniwed i’r DJs sy’n ei chwarae ar eu sioeau gyda’r nos.

“Fi wedi clywed Georgia Ruth a Huw Stephens yn chwarae hi ar y radio ac maen nhw jest yn hoffi dweud enw’r gân – mae’n gwneud iddyn nhw giglo ar y radio jest cyn iddi gael ei chwarae.

“Mae yna rywbeth bach neis yn y peth bach yna – ein bod ni’n gallu rhoi bach o hwyl i bobol.

“Mae’n gweithio yn y ddwy iaith achos bod y penillion yn Gymraeg a’r llinell ‘Balls to the wall’ yn Saesneg – ti’n cael yr holl neges o’r llinell yna!”

Bu’r band hefyd yn brysur yn ffilmio fideo ar gyfer y gân gyda chriw Lŵp S4C, ac mae’r fideo ar YouTube ag ati.

Ac wrth geisio meddwl am rywun oedd yn cynrychioli neges y gân, dim ond un enw ddaeth i’r meddwl. Caryl Parry Jones sy’n chwarae rhan arweinydd y côr, sy’n debyg i cult, yn y fideo, ac roedd Heledd wedi’i synnu ei bod hi wedi derbyn y cynnig.

“Ro’n i jest rili moyn i Caryl Parry Jones fod ynddo fe,” meddai Heledd.

“Ro’n i’n gobsmaked pan wnaeth Caryl gytuno ac yn cachu pants am orfod cwrdd â hi.

“Pan fi’n meddwl am rywun sydd wedi mynd ‘balls to the wall’ yn eu gyrfa, fi’n meddwl am Caryl, yn enwedig gyda’r stwff roedd hi’n rhyddhau gyda Bando yn yr 1980au.

“Doeddet ti ddim yn gweld stwff fel yna yng Nghymru.

“Doeddet ti ddim yn gweld stwff oedd yn unapologetically pop… ac mae’r geiriau’n eithaf rhywiol.

“Doedd pobol ddim yn gwneud pethau fel yna a galla i ddim ond dychmygu’r ymateb i hwnna, yn enwedig rownd mamau a’u mamau nhw.

“Fi’n credu yr oedd hi’n rili dewr a fi’n credu bod y gwaith mae hi’n gwneud yn sgriptio a chyfweld yn rili cryf.

“Fi’n edmygu ei gyrfa hi a’i ffordd hi o feddwl, felly ro’n i’n meddwl ein bod ni angen rhywun yn y fideo i gynrychioli be mae’r gân yn ei olygu.”

Y cowbois yn herio perchnogion tai haf

Parhau mae’r steil chwareus ar Dollar Lizard Money Zombie wrth fynd ymlaen i daclo mater ychydig mwy difrifol – y nifer cynyddol o ail gartrefi yng Nghymru. Â hithau wedi clywed digon o ganeuon yn trafod y broblem o ddifrif, gwelodd Heledd y cyfle i roi ei phwynt ar draws trwy goegni a chomedi gan dynnu ar brofiadau ei ffrind gorau yn ceisio prynu ei chartref cyntaf. Ac felly, addewid i gael gwared â phob tŷ haf yng Nghymru wedi’i becynnu fel trac garage rock ydy ‘House’, er iddi ddechrau mewn cywair cerdd dant.

“Ro’n i’n ymwybodol pan o’n i’n sgrifennu e bod lot o ganeuon wedi bod yn trafod hyn, ond roedd e’n rhywbeth oedd yn bwysig i fi.

“Mae lot o fy ffrindiau yn trio prynu tai gan gynnwys fy ffrind gorau, Mari Elin, sy’n byw y tu fas i Aberystwyth – hi sydd yn y fideo i ‘House’ gyda fi.

“Yn ystod y cyfnod clo, mas yn y wlad y tu allan i Aberystwyth, aeth prisiau tai yn astronomical ac ambell dro roedd Mari’n mynd ar ocsiynau ar-lein ac yn gallu gweld y bobol yma o du allan i Gymru yn bidio ar dai heb hyd yn oed eu gweld nhw.

“Roedd hi’n gallu gweld y prisiau’n mynd lan ac allan o’i budget hi.

“Mae hi’n rhywun lleol sydd wastad wedi bod eisiau aros yn yr ardal, sydd gyda swydd daclus ond methu fforddio prynu rhywbeth yn ei hardal hi.

“Mae’n digwydd ar draws Cymru ac i lawr i Gernyw – unrhyw le sydd bwys y môr ac yn brydferth.

“Hynna wnaeth ysbrydoli’r gân ond ro’n i moyn iddo fe gael bach o hiwmor, achos fi’n credu mae hiwmor yn gallu helpu rhoi pwynt ar draws, jest achos ti’n gallu blino ar rywun yn rantio drosodd a drosodd a drosodd.

“Os wyt ti’n gallu sleifio’r syniad i mewn i ben rhywun mewn ffordd wahanol… pam lai?”

Mae’r fideo sy’n dangos y cowbois, Heledd a Mari Elin, yn cymryd y mater i ddwylio eu hunain yn werth ei gweld!

HMS Morris yn hwylio ledled Cymru a Lloegr

Fe gafodd Dollar Lizard Money Zombie ei lansio mewn noson yng Nghaerdydd ac mae’r band bellach ar daith yn chwarae eu tiwns newydd i gynulleidfaoedd ar draws Cymru a Lloegr. Dechreuodd y daith yn agos at adref yng Nghaerfyrddin a byddan nhw’n teithio ar hyd a lled y ddwy wlad cyn dod i ben yng Nghaer. Yn ôl Heledd, mae chwarae mewn lleoliadau newydd yn Lloegr yn gyfle i glywed am yr hyn mae eu ffans di-Gymraeg yn mwynhau am eu cerddoriaeth.

“Mae yna lot o Gymry’n dod i rai Llundain, sy’n rili neis, tipyn yn dod ym Mryste ond dim cymaint yn Rhydychen.

“Ond mae’n neis i bobol newydd ddod a chlywed ein cerddoriaeth am y tro cyntaf – rhai’n hoffi e a rhai ddim.

“Mae’n ddifyr chwarae caneuon Cymraeg y tu allan i Gymru hefyd achos ni’n cael sgyrsiau diddorol gyda phobol ar ôl, a gweld pa ganeuon oedden nhw’n hoffi a beth oedden nhw’n deall.

“Ar ôl y gig, maen nhw’n dod lan a holi: ‘What’s it about?”

“Ond fel arfer, maen nhw’n hoffi ‘110’ fwyaf – mae yna rywbeth am y riff ar ddechrau hwnna mae pobol yn hoffi.”

Mae Dollar Lizzard Money Zombie ar gael i’w ffrydio a’i brynu ar ddisg a feinyl