Richard Harrington, un o’n prif actorion cyfresi drama, yw un o’r enwau a fydd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ddiwedd mis Hydref i ddathlu darlledu yng Nghymru.

Mae’r tri digwyddiad wedi’u trefnu yn rhan o broject “arloesol” Canolfan Archif Ddarlledu Cymru, a’i phartneriaid BBC Cymru, S4C ac ITV Cymru. Y bwriad yw dathlu darlledwyr Cymru, ynghyd â sêr darlledu Cymru, a’u ‘cyfraniad at dreftadaeth sgrin a sain y genedl’.