Tu allan i’r gwaith archaeoleg a chyflwyno’r sioe radio nos Lun ar BBC Radio Cymru dwi hefyd yn gweithio yn llawrydd fel tywysydd. Rŵan dyma i chi waith diddorol. Yn ei hanfod mae’r swydd yn golygu mynd â phobl i weld pethau o ddiddordeb yma yng ngogledd Cymru. Fel arfer mae ‘pobl’ yn golygu Americanwyr ond nid pob tro ac nid o reidrwydd.