Dwi’n sgrifennu heno o dan gwrlid trwm. Dwi ddim cweit yn siŵr sut y des i orwedd oddi dano chwaith, fyswn i’n tyngu mai ond ‘eistedd lawr am funud’ ar gornel y gwely wnes i, rhyw 42 munud yn ôl. Gyda’r teimlad yn dychwelyd i fysedd fy nhraed a fy ymennydd yn ara bach, dwi’n teipio’n ddramatig o wamal ar ôl deuddydd allan yn yr haul, glaw, cenllysg, gwyntoedd, gwres tanbaid ac eirlaw yn Eryri.