Mae maint rhagfarn Huw Onllwyn yn erbyn yr SNP a’i gasineb amlwg tuag at y Blaid a’i haelodau blaenllaw yn ei erthygl yn rhifyn Hydref 12fed o Golwg yn gwbl anghredadwy. Mae Huw yn datgan rhes o resymau sydd naill ai’n amheus neu yn anghywir – gormod o lawer imi fedru eu hateb mewn llythyr. I bob pwrpas mae’n proffwydo tranc yr SNP yn bennaf oherwydd ei chanlyniad siomedig yn isetholiad Rutherglen. Fodd bynnag, roedd hon yn etholaeth gydag amgylchiadau anghyffredin iawn cyn yr i