A welsoch chi erioed aliens? Pobl bach gwyrdd efo hwynebau hirgrwn dinodwedd?

Maen nhw wedi amcangyfrif bod hyd at 200 biliwn o alaethau (galaxies) yn y bydysawd hysbys gyda phob galaeth yn cynnwys miliynau a biliynau o sêr, ac felly pan ddaw i amcangyfrif y nifer o blanedau yn y bydysawd, cymerwch fy ngair bod y rhif yn anferthol. A gyda’r rhifau o’u plaid, mae’n debyg bod planedau yn bodoli sy’n gartref i aliens.