Bu’r tîm pêl-droed yn herio Gibraltar yn Wrecsam ganol wsos, a phob tocyn i’r gêm ar y Cae Ras wedi ei werthu.

A bydd Stadiwm Caerdydd yn bownshan nos Sul ar gyfer ymweliad Croatia ar gyfer gornest galed.

Mae croesi bysedd am driphwynt er mwyn rhoi hwb anferthol i’r ymgyrch gymhwyso ar gyfer Ewros y flwyddyn nesaf yn yr Almaen.