Mae hi’n bedair blynedd bellach ers imi fod dramor, felly mae yna fflyrtio cyson efo’r syniad o fynd fy hun achos dwi’n teimlo rhyw awydd dwfn i ddianc am ychydig bach. Bologna ydi lle dw i eisiau mynd a dwi wedi trafod y peth ers misoedd erbyn hyn. Yn wir, dw i wedi’i drafod ers cyhyd i un o’m cydweithwyr benderfynu mynd â’i wraig yno, gan fy ngadael i’n pwdu. Dyna ydi’r anfantais fwyaf o fod yn sengl, dw i’n meddwl. A, dw i ddim eisiau mynd ar wyliau ben fy hun (been there, done that,