Mae’r ymateb i’r rheolau gyrru newydd yng Nghymru wedi bod yn syfrdanol. Mae’n ymddangos mai dyma’r cwestiwn mwya’ ym mywydau tua hanner miliwn o’r boblogaeth.

Led led y wlad, mae yna rywrai wedi bod yn paentio tros arwyddion 20, er bod hynny, ynddo’i hun, yn amlwg yn beth peryg. Mae yna baentio symbolaidd wedi bod dros y gwirionedd hefyd o ran hyd a lled y polisi newydd a sut y daeth i fod.