Ers dechrau Medi mae fy nghyfoedion o Ysgol Gyfun Rhydfelen (gynt) wedi dechrau hel y pensiwn uchod. Pob un, wrth droi’n 66, yn hawlio £203 yr wythnos. Am ddim! Ac yn mwynhau ei wario ar bethau pwysig megis peiriannau torri gwair.

Mae’r rhai mwyaf synhwyrol yn ein plith hefyd wedi ymddeol – gan ddarganfod mor braf yw gorwedd yn y gwely ar fore Llun, tra’n meddwl am y to ifanc yn mynd i’w gwaith trwy’r gwynt a’r glaw a’r traffig.