Wrth i mi sgwennu hwn mae llywodraeth Keir Starmer ar fin cyhoeddi newidiadau i’r system les. ‘The biggest overhaul of employment support in memory’ meddai Prif Weinidog Prydain.

Rwy’n dymuno’n dda iddo, a’i Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall, oherwydd mae’r sefyllfa o ran lles yn un nad yw’n gynaliadwy, o bell ffordd.