Roeddwn i wedi ei deimlo i’r byw y tro hwn. Chwe awr ar ôl gadael fy nghartref, roeddwn i’n eistedd yn y Butchers Arms gyda fy ffrindiau ac yn cwyno rhwng jochiau o gwrw. Fe glywon nhw’r hanes am yr eira yn Llanbrynmair, y gritters yng Nghaersws a’r person byw cyntaf erioed i mi ei weld ar y stryd yn Commins Coch. Roedden nhw wedi dod yn bell hefyd – o Reading, o Lundain ac o Brighton, fel maen nhw wedi gwneud ar gyfer bob gêm Cymru ers 20 mlynedd.