Heddiw, mi wnes i ddeffro yn meddwl am adref.

Roedd neithiwr yn noson fawr arall – crôl efo pobol nad ydw i eto yn eu ’nabod yn iawn, er ’mod i’n byw efo nhw, a dod i adnabod y llefydd rhataf i yfed. Dwi’n trio penderfynu’n araf bach pwy ydw i, rŵan ’mod i’n fi newydd sbon – yn bell o adref, yn barod am gyfle i ddechrau eto. Efallai y gwna i ddechrau gwisgo mwy o goch. Efallai y bydd gen i gerddediad newydd; efallai wna i ddysgu sut i rholio smôcs.