Rydw i ar fin symud i Abertawe am fis. Y tro cyntaf wnes i aros yn y ddinas hon ar gyfer swydd, roeddwn i’n aros mewn Travelodge ble – wir yr – roedd yna waed ar wal yr ystafell ymolchi! Roedd un o’r lampau wedi rhwygo, dim sebon ar gael, ac wrth gerdded mewn i’r gwesty fe wnaeth criw o ddynion oedd yn ‘dathlu’ yn y bar waeddi ‘wheeeeeeey’ yn uchel arna i wrth i mi gerdded mewn.