Mae’r ymateb i newid y cyfyngiad cyflymder i 20 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd yng Nghymru wedi bod yn ddifyr ac yn flinderus. Thrafoda’ i ddim y pwnc ei hun ond i ddweud fy mod i’n llugoer yn erbyn. Dydi o fawr fwy na ffordd i Lywodraeth Cymru wneud ati ei bod hi’n cyflawni rhywbeth o bwys drwy wneud y peth hawsaf posib. Hwyrach y byddai wedi gwneud rhywbeth arall yr un mor ddibwynt pe gwyddai rhag blaen ffyrnigrwydd yr ymateb i’r un yma.