Ddechrau’r mis roedd sawl Cymro yn dodwy planciau ar drothwy’r gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd.

Roedd Ffiji newydd roi cweir i’r Saeson yn Twickers, ac yn ôl y gwybodusion roedden nhw am wneud yr un fath i’r Cymry.

Bu lot o sôn am ein colled boenus i Ffiji yng Nghwpan y Byd 2007, ond yn rhyfedd ddigon, fawr neb yn nodi ein bod wedi trechu Ffiji ym mhob Cwpan y Byd ers hynny.

Y naratif oedd ‘Och a gwae’ a’r felan yn drwm cyn i’r un bêl gael ei chicio.

Mae o’n un o’n ffaeleddau pennaf ni fel Cymry ein bod yn awchu, bron, i yfed o gwpan anobaith.

Ond yma yn yr atig fe wnes i sgwennu’r geiriau gobeithiol yma: ‘Warren yw fy mugail’… ac ni fu eisiau arnaf!

Cyn mynd i Ffrainc, fe addawodd Mr Gatland “rhywbeth arbennig”, ac mae’r dyn wedi delifro.

Rhaid cydnabod capteiniaeth cydnerth a gwefreiddiol Jac Morgan hefyd.

Roedd y gwaed ar ei drwyn ar derfyn gêm Awstralia yn destament i’w ymroddiad, ei gadernid a’i galon.

Mae Mr Gatland wedi dewis dyn ifanc sy’n arwain trwy esiampl gan daclo mor ffyrnig, a chicio a phasio’r bêl yn syndod o gelfydd.

Ac fe ddilynodd gweddill y bois y capten a rhoi eu cyrff ar y lein a chystadlu i’r eithaf.

Nid anghofiwn y 252 o dacls wnaeth y Cymry yn erbyn Ffiji – y nifer fwyaf erioed mewn unrhyw gêm yng Nghwpan y Byd.

Fel y dywedodd yr is-hyfforddwr, Jonathan Humphreys:

“Fedrwch chi ddim taclo gymaint â hynny os nad ydych chi yn heini ac yn gallu codi oddi ar y llawr a thaclo eto ag eto.”

Tros yr Haf fe aeth Mr Gatland â’r bois i’r Swistir a Thwrci i gynyddu eu ffitrwydd, ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed.

Ond hanner y stori yw’r garfan heini.

Mae’r Cymry wedi chwarae rygbi craff (heblaw am y chwarter awr olaf hollol orffwyll yn erbyn Ffiji!) ac wedi sgorio 11 cais mewn tair gêm, gan gymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf gyda gêm i sbario.

Allwch chi ddim gofyn am fwy, yn enwedig o gofio mai colli 4/5 oedd hi yn gynharach eleni ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Gyda’r holl fwd sydd wedi ei daflu at Undeb Rygbi Cymru yn y blynyddoedd diweddar, rhaid eu llongyfarch am hudo Warren Gatland yn ôl i’r gorlan.

Warren yw ein bugail!

A DYMA’R GOLOFN GAFWYD AR DROTHWY CWPAN Y BYD…

Warren yw fy mugail

Barry Thomas

“Mae gan Stad y Goron werth £853m o asedau yng Nghymru… digon o arian i dalu am bob Steddfod o rŵan tan 2165”