Er gwaetha’ canlyniadau ciami Cymru tros y 12 mis diwethaf, mae fy ngwydr yn hanner llawn ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd.

Ac mae dau brif reswm am hynny – hyfforddwr hirben ac asgellwr hyderus.

Ar ôl bod â’i garfan dramor ar gyfer y campiau ffitrwydd hunllefus-o-arteithiol-ond-hanfodol, daeth Warren Gatland i’r fei yn hapus iawn gydag ymroddiad yr hogiau ac yn addo y bydd Cymru yn cyflawni “rhywbeth arbennig” yng Nghwpan y Byd…

Nid un i wamalu mo hyfforddwr Cymru, ac mae ei record mewn Cwpanau Byd gyda’r gorau.

O drwch blewyn y collodd ddwy gêm gynderfynol yn 2011 a 2019, a dyma’r agosaf y daeth y Cymry erioed at wynfyd ffeinal Cwpan y Byd.

A’r Kiwi clyfar oedd pensaer y fuddugoliaeth ryfedd-wyrthiol yn Nhwickenham yn 2015, pan wnaethon ni guro’r Sais ar ei domen ei hun yng Nghwpan y Byd. Melys!

Felly pan mae Mr Gatland yn addo “rhywbeth arbennig”, mae hi yn amser cyffroi!

Un arall sy’n gwefreiddio yw’r asgellwr addfwyn Louis Rees-Zammit, neu ‘Rees Lightning’ i’w edmygwyr selocaf.

Ddechrau’r wythnos roedd y BBC yn dangos rhaglen ddifyr Being Louis Rees-Zammit, am siwrne’r bachgen 22 oed o Gaerdydd i’r copa.

Ac un olygfa i gynhesu’r galon oedd honno ar derfyn gêm i’w glwb Caerloyw, wrth iddo gael ei holi ar ôl derbyn tlws Seren y Gêm.

Ar gynffon y cyfweliad dyma Louis yn diolch i’w deulu, yn fyw ar y teledu, am ei gefnogi. Wedyn fe welwyd y mab yn mynd draw i’r dorf a chanfod ei rieni a’u cofleidio.

Hyfryd, ac roedd y montage dilynol o Louis mewn jim yn America yn dyrnu mynd drwy ymarferion i gryfhau a chyflymu ei gorff yn ysbrydoledig.

Fel Mr Gatland, mae Louis wedi dweud ambell beth tros yr Haf i gyflymu calonnau’r Cymry.

Yn dilyn yr holl hyfforddi, mae’r asgellwr yn credu ei fod yn gyflymach nag erioed.

“Dyma’r mwyaf heini yr ydw i wedi deimlo yn fy myw, ac rydw i yn barod i berfformio…”

Dyma’r math o feibs sydd eu hangen, bois bach!

Be’ ydy feibs? Anodd dweud yn union – ond rhwng Mr Gatland a Louis, rydw i yn cael llond trol o feibs da ar drothwy’r Cwpan y Byd yma… iddi gydag arddeliad hogia!

Ôl-nodyn: peidied neb ag anghofio’r asgellwr arall.

Mae Josh Adams yn ddewr fel llew ac yn galed fel coeden dderw, yn sgoriwr ceisiau tan gamp sy’n llygadu a llarpio cyfleon megis crocodeil cyfrwys.

Fe sgoriodd hat-tric yn erbyn Ffiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

Gadewch i ni groesi bysedd y cawn ni rywbeth tebyg ganddo yn erbyn Ffiji draw yn Bordeaux nos Sul.

Pob lwc i’r bois i gyd… CYM ON CYMRU!

Carlo i noddi’r Brifwyl?

Mae galw am fynediad am ddim i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd y flwyddyn nesaf, er mwyn gallu croesawu pobol leol sydd efallai heb ddeall yr apêl.

Mae’n syniad gwych, ond byddai angen ffeindio’r tua £6m mae hi’n gostio i gynnal y Brifwyl.

Be’ am holi Brenin Lloegr am gyfraniad?

Wedi’r cyfan, mae gan Stad y Goron werth £853m o asedau yng Nghymru.

Digon o arian i dalu am 142 o Steddfodau, sef pob un o rŵan tan 2165…