Roedd hi’n hollol amlwg mai cost fyddai prif gŵyn y papurau newydd a’r Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn y newid yn nifer a natur Aelodau Senedd Cymru.

Dyna’r peth hawdd i fynd amdano er mwyn cael sylw a chefnogaeth arwynebol. Dyna’r hyn sydd wedi dod yn arfer dan arweiniad Andrew RT Davies.

A nhwthau’n wrthblaid barhaol yng Nghymru, mi fyddech chi’n disgwyl iddyn nhw gefnogi cynnydd yng ngallu’r Senedd i gadw llygad ar Lywodraeth ac am fwy o rym i bwyllgorau craffu ac aelodau mainc gefn.