Hwyrach fod etholiadau nesa’r Senedd dipyn i ffwrdd, ond mae yna rywbeth dwi’n sicr yn ei gylch – bydd gan bob plaid arweinydd gwahanol i’r hyn oedd ganddyn nhw adeg ymgyrch 2021. Mae Rhun ap Iorwerth eisoes am arwain Plaid Cymru, a chawn ras yn y blaid Lafur wedi i Mark Drakeford gadarnhau na fydd yn sefyll yn 2026. Dydi hi ddim yn sicr yn union pryd na phwy fydd yn cymryd yr awenau oddi wrtho, ond mae’r pres call ar Vaughan Gething.