Dwi’n dal i’w glywed o weithiau. Doedd o ddim yn swnio fel brêcs car chwaith – roedd yna rywbeth tebyg i sgrech ym monllef y sŵn, a ro’n i’n gwybod fod yna rywbeth ofnadwy wedi digwydd ymhell cyn i’r sgrechiadau go-iawn ddechrau. Yn yr eiliad yna o fudandod rhwng sŵn brêcs a’r synau o ymateb yn llawn panig i’r ddamwain, roedd yna hen drymder du.