At ei gilydd mae’r Cymry yn y cadarnleoedd yn estyn croeso i bobol ddiarth sy’n dod i fyw yno.

Maen nhw’n gwirioni pan mae’r newydd-ddyfodiaid yn dysgu’r iaith, ac yn ddigon bodlon os nad oes ganddyn nhw’r amser i ddod yn rhugl – cyn belled eu bod yn anfon y plant i’r ysgol Gymraeg leol.

Ond ers sawl blwyddyn bellach, yr hyn sy’n codi gwrychyn yw dyfodiad yr Airbnbs.