Dwi’n cofio meddwl yn ôl yn 2020, pan drechodd Joe Biden Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol, dyna ni. Ro’n i wedi laru gweld wyneb Trump, clywed ei lais a’i fwydro, a go brin na fi oedd yr unig un. Roedden ni’n edrych ymlaen at heddwch a challineb cymharol. Wel, pharodd hynny ddim yn hir, naddo? Glywson ni fwy am Trump na’i olynydd dros y blynyddoedd diwethaf a rŵan mae bron yn gwbl sicr y bydd yn herio Biden yn yr etholiad nesaf ymhen ychydig mwy na blwyddyn.