Bu yn wythnos o deithio ar hyd a lled Cymru ar gyfer sawl project, ac rydw i nawr yn sgwennu hwn ar y trên nôl i Lundain a gorsaf Paddington ar nos Wener.

Yfory fe fydda i a fy nghariad yn mynd i ein hoff siop goffi, ‘Oscars’ yn Ladywell, ar gyfer nid dim ond y coffi gwych ond y teisennau sinamwn anhygoel hefyd. Wedyn, am dro o gwmpas Hilly Fields sy’n cynnig golygfa wych dros de-ddwyrain Llundain. Fedra i ddim disgwyl.