Prynais bentwr o lyfrau ar faes yr Eisteddfod yr ydw i eto i’w darllen. Un o fy hoff lefydd i agor llyfr yw ar siwrne drên; does dim byd gwell i wneud ac felly man a man ichi ddarllen!

Roedd gen i gyfarfod yn Llundain a wnes i yn siŵr i fynd â llyfr gyda fi, a gan fy mod i’n ymweld â phrifddinas Lloegr, Cwlwm gan Ffion Enlli oedd y cydymaith perffaith.