Ydych chi’n teimlo fod popeth ar chwâl?

Ysgolion Lloegr yn cau gan fod peryg iddynt gwympo – diolch i’r reinforced autoclaved aerated concrete a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu. Ambell i ysgol yng Nghymru – a phwll nofio – wedi cau hefyd.

Rhestrau aros hirfaith ar gyfer gwasanaethau iechyd. Cynghorau sir – Birmingham, Woking, Northumbria a mwy – yn mynd yn fethdalwyr. Gweithwyr yn streicio ymhobman. Costau byw a chwyddiant yn erydu’n cynilion.

Sut aeth pethe mor wael?