Os bydd Cymru, rywsut, yn parhau i wneud yn dda yng Nghwpan Rygbi’r Byd, mae’n siŵr y gwnaiff hynny fyd o les i boblogrwydd y gêm… am ychydig o leia’.

Os bydd Cymru’n gwneud yn wael, mi all fod yn ergyd ddifrifol eto. Hyd yn oed wrth daro cyfnod caled, mae pêl-droed Cymru ymhell ar y blaen i rygbi Cymru o ran delwedd ac ysbryd.