Tasa’r tŷ yma’n gallu siarad… wn i ddim be fyddai ganddo i’w ddweud, ond wedi 16 mlynedd dydi ‘nghartref bach i yn Grangetown ddim yn fy meddiant mwyach. Tŷ rhywun arall ydi o rŵan, ym mhen arall y wlad. Dydw i ddim yn emosiynol iawn am y peth – dydw i ddim yn emosiynol iawn ffwl stop. Ond alla i ddim ond ag edrych yn ôl ar y bron i hanner fy mywyd imi dreulio yno a sut newidiodd pethau.