Os fyddwch chi’n digwydd teithio ar yr M6 wythnos yma, cadwch lygad allan am fy enaid i, wnewch chi?

Hen ymadrodd niwlog gan fy therapydd sydd gen i mewn co’ – bod y corff yn gallu symud yn gyflym, ond bod yr enaid yn gorfod cerdded. Os oes mymryn o wirionedd yn hynny, dwi’n credu bod fy un i wedi penderfynu aros am sbel yn services moethus Tebay, wrth i fy nghorff yrru’n ara bach yn ôl o’r Alban.