Rwyf wedi dychwelyd o Fietnam.

Gallaf adrodd fod Hoi An yn le hyfryd iawn (hen dref sy’n un o safleoedd treftadaeth y byd) a bod Dinas Ho Chi Minh yn fwy dymunol na Hanoi (a mwy i’w weld).

Gallaf argymell Pho (sef bowlen o nwdls, cig, tsilis a llysiau gwyrdd – mewn potes ysgafn a blasus). Ar werth am £2 ymhobman.