Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol cymerais ran mewn sgwrs banel rhwng ysgrifenwyr yn trafod cynrychiolaeth ym myd llên. Ydy llenyddiaeth Gymraeg yn cynrychioli’r holl amrywiaeth cyfoethog sydd yna o ran cefndiroedd a phrofiadau yn ein cymunedau? Yr ateb plaen yw: na.
Teg yw gofyn a ydy unrhyw lenyddiaeth genedlaethol yn llwyddo i wneud hynny? Dw i’n amau. Mae yna bendant lle i wella ac o ran llên Gymraeg, mae yna fylchau mawr ac amlwg ac felly llawer o waith i’w wneud!