Cynhelir ras seiclo ‘Tour of Britain’ yr wythnos hon. Mae’r ras yn ymweld â Wrecsam ac yn gorffen yng Nghaerffili ar ôl dringo Mynydd Caerffili ddwywaith ddydd Sadwrn. Ond mi wnes i deithio i Sir Gaerhirfryn ar gyfer diwrnod cyntaf y ras. Doeddwn i ddim ond ugain munud i ffwrdd o’r allt enwog, ‘Ramsbottom Rake’ pan dderbyniais alwad ffôn. Roedd yna broblem deuluol i’w datrys, ac yn anffodus, roedd rhaid i fi droi am adref.