Beth sy’n gyffredin rhwng yr Ysgrifennydd Amddiffyn newydd, Grant Shapps, a’r concrid problematig, RAAC? Dim ond symptomau ydi’r ddau. A symptomau o rywbeth tebyg.

Mae’r concrid yn un o res o ddeunyddiau sy’n dod yn ffasiynol yn sydyn ac wedyn yn creu trafferth. Yr enghraifft fwya’ trasig, wrth gwrs, ydi’r gorchuddion ar Dŵr Grenfell.