Bu Rhydian Darcy draw i Hwngari i wledda ar gampau gŵyr a gwragedd cyflymaf, cryfaf a mwyaf heini’r blaned…

Yn wythnos lawn olaf mis Awst fe gafodd Pencampwriaethau Athletau’r Byd eu cynnal mewn stadiwm athletau newydd, y Ganolfan Athletau Genedlaethol, yn Budapest, Hwngari.