Mae Carol ynghanol breuddwyd pan fo’r larwm yn canu – rhywbeth am fod mewn gardd fawr yn llawn blodau’r haul, yn chwilio am y plant a nwythau’n dal yn fach. Mae hi’n dal i glywed eu chwerthin drwy sgrech aflafar y cloc larwm, ac wrth iddi ymestyn i’w ddiffodd, mae’n rhaid iddi atgoffa ei hun nad fel yna mae chwerthin ei phlant yn swnio’r dyddiau hyn. Maen nhw’n hen bellach, a’r gwahaniaeth oedran rhyngddyn nhw a’i mam wedi mynd i deimlo’n llai ac yn llai unwaith iddyn nhw groesi trothwy’r hanner