Cyhoeddwyd carfan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yr wythnos ddiwethaf. Mae gen i gywilydd wrth gyfaddef mai dim ond enwau hanner y chwaraewyr roeddwn i yn eu hadnabod.

Nawr te, nid un o’r cefnogwyr pêl-droed yna sy’n casáu rygbi ydw i. Ar un adeg, roeddwn i’n hoff iawn o’r gêm. Roeddwn i’n arfer gwylio Pontypridd, Cymru, a chlybiau rygbi lleol yn aml am flynyddoedd. Beth sydd wedi digwydd felly, i wneud i mi golli diddordeb mewn gêm roeddwn i’n arfer hoffi gymaint?