“Ddim am ymddiheuro”. Dyna oedd y penawdau diweddar wrth i S4C amddiffyn eu penderfyniad i ddefnyddio mwy o Saesneg yn eu rhaglenni.
Wnes i ddim clywed y cyfweliad llawn ar raglen Dros Frecwast wythnos yr Eisteddfod, ond mi welais ambell ddyfyniad. Heb os, “ddim am ymddiheuro” sydd wedi cydio, hwnnw ydi’r ymadrodd sydd wedi bod yn gwneud y rownds. Yr ychydig eiriau hunanamddiffynol, braidd yn fygythiol, braidd yn drahaus yna.
Fe wnes i feirniadu’r defnydd o Saesneg ar Pobol y Cwm ychydig fisoedd yn ôl… Wel, naddo… cwestiynu wnes i mewn gwirionedd, cwestiynu pwy oedd yn gyrru’r newid, gweledigaeth pwy oedd hi? Ac mae’r datganiad diweddaraf yma gan Arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn ateb fy nghwestiwn i raddau helaeth.
Rydym ni wedi hen arfer clywed gwleidyddion yn siarad mewn soundbites ac fel arfer maent yn gwneud hynny i osgoi egluro’n union beth sydd yn mynd ymlaen. Fedra i ddim siarad dros neb arall ond wnes i’n sicr ddim clywed unrhyw un yn gofyn am “ymddiheuriad”. Yr hyn dw i’n meddwl yr hoffai gwylwyr ei gael ydi eglurhad call.
Hynny yw, os mai dyma sydd i’w ddisgwyl o hyn ymlaen, beth am ychydig o gig ar yr asgwrn? Beth yn union yw’r strategaeth? Ym mhle mae’r ymchwil sy’n profi fod clywed mwy o Saesneg yn helpu dysgwyr i siarad Cymraeg? A sut mae hyn i gyd yn ffitio gyda thelerau nawdd cyhoeddus y sianel? Wedi’r cwbl, go brin y byddai S4C yn fusnes ffyniannus fel sianel fasnachol yn unig.
Efallai y byddai rhai’n meddwl fy mod i’n gwrthwynebu’r defnydd o Saesneg ar S4C yn gyfan gwbl, ond dydw i ddim. Os yw’r hanesydd mwyaf hyddysg neu’r arbenigwr mwyaf addas ar raglen ddogfen ddim yn siarad Cymraeg, dw i dal eisiau clywed ganddyn nhw. Neu os ydi Llinos Lee yn llwyddo i siarad efo Jonas Vingegaard ar ddiwedd cymal o’r Tour de France, a’r unig iaith sy’n gyffredin rhwng y Gymraes a’r Daniad yw Saesneg, yn amlwg mae honno dal yn sgŵp gwerth ei chael.
Ond mae yna wahaniaeth rhwng hynny a symudiad bwriadol tuag at fwy o Saesneg.
Y cyd-destun ehangach sy’n ddiddorol yn hyn i gyd a’r hyn sy’n digwydd i’r Gymraeg ar hyn o bryd yn y cyfryngau di-Gymraeg. Soniais am y defnydd o Gymraeg ar raglen ddogfen BBC Wales Firebombers ychydig wythnosau yn ôl. Ers hynny rydw i wedi gwrando ar bodlediad gwych Meic Parry The Crossbow Killer a gwylio rhaglen ddogfen Sian Eleri, Paranormal: The Girl, the Ghost and the Gravestone.
Nid yw rhaglenni hela ysbrydion at fy nant fel arfer ond llwyddodd Sian Eleri i fy nhynnu i mewn rhywsut, ac mae’n siŵr fod gan naws Gymreig a Chymraeg yr hanes ac ymdriniaeth Sian ohono lawer i’w wneud â hynny. Yn rhesymegol iawn, mae teimlad cyfoes i’r gyfres. Cymerwch The Crossbow Killer wedyn. Stori gwir drosedd sy’n cydio’n dynn o’r dechrau ac o’r mân siarad rhwng cyfweliadau, i farddoniaeth Rhys Iorwerth, i gerddoriaeth Mark Roberts, mae’n ddigamsyniol Gymreig.
Cyd-ddigwyddiad efallai, ond mae’n sicr yn teimlo fel bod mwy a mwy o Gymraeg i’w glywed ar raglenni Saesneg yn ddiweddar a’r peth yn cael ei normaleiddio mewn modd organig iawn. Rhaglen deledu a ddarlledwyd ar rwydwaith lawn y BBC a phodlediad sydd ar gael yn fyd eang, dyma’r Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfa newydd.
Felly dyma syniad radical i chi… Symud Pobol y Cwm i BBC Wales, ei ddangos o yn ystod slot Eastenders yma yng Nghymru a’i hyrwyddo fo’n ehangach ar iPlayer. Gellid ei ddatblygu’n opera sebon gwirioneddol ddwyieithog wedyn a sicrhau fod “Cymru gyfan yn cael ei gweld a’i chlywed” (neu beth bynnag oedd y geiriad). Byddai nifer o wylwyr yn aros a rhai newydd yn ymuno. Ac yn y cyfamser, byddai awran dda yn cael ei rhyddhau yn amserlen wythnosol S4C ar gyfer deunydd uniaith Gymraeg.
Pawb yn hapus siawns? Gewch chi ddiolch i mi wedyn!