Rydym yn byw yn Oes y Saesneg. Mae’r byd wedi cael ieithoedd grymus o’r blaen, fel Lladin yn y Gorllewin, ond ni fu’r un iaith arall yn famiaith i gymaint o siaradwyr a hefyd yn lingua franca amlwg ledled y byd.
Mae twf, pŵer a dylanwad yr iaith Saesneg wedi achosi drwgdeimlad ymhlith ieithoedd eraill, ac nid jest yr ieithoedd bach fel y Gymraeg ond ieithoedd cenedlaethol mawr fel Ffrangeg (oddeutu 270 miliwn o siaradwyr) a Japaneg (oddeutu 128 miliwn o siaradwyr).