Portread o Hywel Morgan

Mae pysgotwr o Geredigion sy’n bencampwr byd yn dal pysgod ers iddo fod yn ddim o beth.

Yn fab i Moc Morgan, y pysgotwr enwog, doedd dim rhyfedd bod Hywel Morgan wedi dilyn ôl ei droed.

Ers tua 30 mlynedd mae’r gŵr o Bontrhydfendigaid wedi bod yn dysgu eraill i bysgota, cynnal arddangosfeydd castio, a ffilmio am bysgota.