Yr Albanes 40 oed sydd wedi ymgartrefu yn Llannerch-y-medd enillodd gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod eleni. Dechreuodd y fam i saith ddysgu’r Gymraeg ar ôl cyfarfod ei phartner a, gyda’i gilydd, maen nhw’n reidio ceffylau, cneifio a chic bocsio.
Pam wnaethoch chi benderfynu dysgu Cymraeg?
Pan symudais i Sir Fôn wnes i gyfarfod Sion, fy mhartner, a dydy Saesneg Sion ddim yn briliant. Wnaeth Sion droi rownd un diwrnod a dweud: ‘Os ydan ni eisiau cario ymlaen a chael bywyd efo’n gilydd, mae’n well i ti ddysgu Cymraeg’. Mewn wythnos neu ddwy fe wnaeth Sion jest stopio siarad Saesneg efo fi. Wnaeth o wneud i fi sylweddoli bod rhaid i fi ganolbwyntio ar ddysgu’r iaith. Felly wnes i ddechrau rhoi sticky notes dros y tŷ i helpu dysgu geirfa syml.
Dyna pam wnes i ddechrau dysgu ac mae gennym ni deulu efo’n gilydd rŵan. Mae’n bwysig i fi fy mod i’n gallu siarad Cymraeg os dw i’n byw yng Nghymru, a bod fy mhlant yn gallu cario’r iaith ymlaen.
O le ydych chi’n dod yn wreiddiol?
Dw i’n dod o bentref bach o’r enw Killin yn Swydd Perth yn yr Alban yn wreiddiol.
Fe wnaeth dyn o Bencarnisiog yn Sir Fôn roi ceffylau gwedd i fi yn yr Alban i’w torri i mewn a’u gwerthu ymlaen. Wnaeth o ofyn i fi ddod lawr i Sir Fôn i reidio un o’r ceffylau gwedd mewn sioe ym Modelwyddan. Felly wnes i ddod i lawr i wneud hwnna rhyw fis Awst, a daeth pobol ata’i yn y sioe yn hoffi’r ffordd dw i’n reidio ceffylau a phethau, felly wnes i feddwl: ‘Duw, mae yna bach o fusnes i fi yn Sir Fôn’. Wnes i symud lawr tua chwe wythnos wedyn gyda Teagan, fy hogan fach. A dyna fo… Dw i heb sbïo yn ôl o gwbl.
Ydych chi’n dal i reidio ceffylau?
Dw i wedi bod yn cystadlu yn yr Alban dros y blynyddoedd. Wedyn pan wnes i symud i Sir Fôn, wnes i ddechrau trwy ddysgu yn Stablau Trefor – lle wnes i gyfarfod Sion. Felly ro’n i’n dysgu pobol sut i reidio ceffylau a dw i wedi dechrau Clwb Merlod Sir Fôn.
Rŵan, dw i a’r genod jest yn chwarae efo’r ceffylau adref. Dw i ddim yn gwneud cymaint ag o’n i o’r blaen.
Wnaethoch chi ddim cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol, felly sut aethoch chi ati i ddysgu’r iaith?
Rhoi sticky notes ar bopeth yn y tŷ fel tegell, oergell a chwpwrdd – maen nhw ym mhob man!
Mae cylchgrawn WCW wedi helpu lot hefyd. Dw i’n gwybod mai cylchgrawn i blant bach ydy o, ond mae o wedi helpu lot gan ei fod o’n ddwyieithog. Mae llyfrau plant hefyd wedi fy helpu, a gwylio S4C ar y teledu gyda’r isdeitlau Saesneg ymlaen.
Dw i wedi codi geirfa o siarad efo’r gymuned hefyd. Mae hwnna’n bwysig i fi… Mae’r ffermwyr wedi bod yn helpu pan dw i’n mynd i gneifio. Mae pawb wedi bod yn helpu.
Sut deimlad oedd ennill Dysgwr y Flwyddyn?
Dw i dal mewn sioc i ddweud y gwir. Dw i wedi bod mor brysur, dydw i heb eistedd i lawr a rili meddwl am y peth. Ond dros y ddau ddiwrnod yn Sioe Môn roedd pobol yn dod ata’i a fy llongyfarch. Mae pobol mor falch a dw i’n falch o fi fy hun hefyd achos dydw i erioed wedi cael gwers. Mae o wedi bod yn emosiynol iawn.
Beth sy’n rhoi hwb i chi barhau i ddysgu?
Un cymhelliant i fi ydy trio cael mwy o bobol i siarad Cymraeg yn y maes iechyd a gofal. Mae o’n bwysig iawn, iawn i fi fod gofalwr yn gallu cerdded i mewn i dai pobol a siarad eu hiaith gyntaf nhw. Mae gan bawb yr hawl i siarad eu hiaith gyntaf. Mae hwnna’n un peth dw i’n mynd i wthio am.
A thrio cael pobol i gael bach o hyder i ddysgu Cymraeg. Dw i wedi cael lot o bobol yn dweud: ‘Mae’n rhy anodd’. Os ti wedi penderfynu dysgu, ti’n gallu ei wneud o. Dwyt ti methu dysgu dreifio car dros nos; mae’n rhaid dal ati a dysgu ychydig bach bob dydd. Dw i jest eisiau dangos i bobol eu bod nhw’n gallu, a heb orfod cael gwersi, achos mae lot o bobol yn brysur neu’n methu fforddio rhai o’r cyrsiau. Ond efo amser, mae o’n bosib.
Gobeithio erbyn 2050 bydd gan Gymru filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Beth yw eich atgof cynta’?
Be dw i’n cofio o fod yn hogan fach ydy mynd efo dad amser y Nadolig i’r goedwig. Roedd o’n torri coed Nadolig i lawr ar gyfer ein pentref bach ni. Doeddwn i ddim yn ei weld o rhwng nos Sul a phnawn Gwener achos roedd o’n gweithio i ffwrdd yn y goedwig, ond dw i’n cofio cael mynd efo fo. Ro’n i wrth fy modd efo fo yn y goedwig.
Beth yw eich ofn mwya’?
Y peth dw i ofn mwya’ ydy rhywbeth dw i’n ei weld trwy fy ngwaith, sef mynd yn sâl ac yn hen a pheidio cofio pwy ydy fy nheulu. Dyma’r peth dw i ofn mwya’. Mae teulu’n beth mawr i fi a dw i ddim eisiau anghofio pwy ydyn nhw pan dw i’n mynd yn hen.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Mae pawb yn ein teulu ni’n gwneud cic bocsio dwy neu dair noson yr wythnos. Dw i’n cneifio hefyd ac yn rhedeg lot.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol sydd yn symud i Gymru ac sydd yn erbyn dysgu’r iaith. Efo’r Alban mae’r Gaeleg bron â mynd achos dydy pobol ddim yn trio siarad yr iaith. Ond dw i ddim eisiau i hynny ddigwydd i’r Gymraeg.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Byddwn i’n gwahodd William Wallace achos mae o wedi cwffio dros yr Alban ac wedi cael annibyniaeth i’r wlad. Dw i’n teimlo fel y fersiwn benywaidd o William Wallace mewn un ffordd achos dw i jest eisiau cwffio dros fy ngwlad a chael yr iaith yn gryf yng Nghymru.
Dw i’n hoffi bwyta cig felly ar gyfer y pryd byddan ni yn cael cig a llysiau a medd o Lannerch-y-medd.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Fy mhartner, Sion. Rydan ni wedi bod efo’n gilydd ers bron i 15 mlynedd ac rydan ni am briodi mis Hydref a fo ydy pob dim i fi. Rydan ni’n priodi yn Gretna Green achos mae o hanner ffordd rhwng fy nheulu i a theulu Sion. Roedden ni’n meddwl bysa ni’n stopio hanner ffordd i’r Alban ar wyliau.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Be dw i’n defnyddio bob dydd ydy ‘dewch de’ achos, efo saith o blant, ti’n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth a dydyn nhw dal ddim felly dw i’n gorfod dweud ‘dewch’ lot.
Hoff wisg ffansi?
Dydw i ddim yn hoff o wisg ffansi ond os oes rhaid i fi ddewis rhywbeth, mae’n rhaid i fi ddweud Wonder Woman, achos mae lot o bobol yn dweud: ‘Ti’n gwneud bob dim – teulu, ar y fferm, gweithio’. Mae Wonder Woman yn gallu gwneud bob dim.
Parti gorau i chi fod ynddo?Ges i barti i ddathlu troi’n 40 ym mis Chwefror ac es i a’r teulu allan am fwyd. Y noson honno wnaeth Sion ofyn i fi ei briodi o. Dw i am gofio hynna am byth.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Ein cŵn ni’n cyfarth trwy’r nos. Mae o fel côr o gyfarth.
Hoff ddiod feddwol?
Jin a thonig.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Pan o’n i’n Seland Newydd wnes i brynu llyfr am Shrek, y ddafad Merino yn Seland Newydd wnaeth ddianc ar ddiwrnod cneifio, a chafodd o ddim ei gneifio am chwe blynedd. Cafodd ffarmwr hyd iddo mewn ogof un diwrnod ac ar ôl ei gneifio, roedd ei wlân yn pwyso 27kg!
Hoff air?
Iechyd da. Ar ôl rhoi’r plant i’w gwlâu, mae’n neis eistedd i lawr efo fy jin a thonig a dweud ‘iechyd da’ wrth Sion ac ymlacio.
Hoff albwm?
Home gan Bronwen Lewis.