Datblygiad cymharol ddiweddar ydi Eisteddfod wyth niwrnod a noson ac arian oedd un o’r prif resymau am ei hymestyn hi.

Os oeddech chi’n trafferthu i godi pafiliwn mawr, yn ôl y ddadl bryd hynny, waeth i chi wneud defnydd iawn ohono fo ddim.

Bellach, mae’r ystyriaethau wedi newid a chymaint o offer soffistigedig yn cael ei hurio fel bod awdurdodau’r Brifwyl yn dechrau meddwl am ei thorri hi’n ôl i bump neu chwech.