Dw i wedi bod yn darllen a meddwl am John Ystumllyn (1738 – 1786) yn ddiweddar wedi i mi gymryd rhan mewn panel drafodaeth gyda Natalie Jones a Dr Simon Brooks ym Mhabell Lên Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Roedd John Ystumllyn yn byw yng Nghricieth yn y ddeunawfed ganrif, ac roedd yn ffigwr arloesol yn ein hanes a fu ar flaen y gad am amryw o resymau:
Y dyn du cyntaf mae gennym gofiant a phortread amdano yng Nghymru.
Y siaradwr Cymraeg du cyntaf y mae gennym gofnod da ohono.