Pan gollodd Caerdydd i Blackpool yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn Wembley yn 2010, roeddwn i’n gwylio’r gêm o fil o filltiroedd i ffwrdd ym Madrid. Y flwyddyn yna, roeddwn i wedi bod yn lwcus iawn i ennill loteri tocynnau UEFA. Oherwydd hynny, ges i’r cyfle i  wylio rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Bayern Munich ac Inter Milan.